Pethau i’w gwneud o’r Wersyllfa
Mae Gwersyllfa Fferm Garth ger Yr Wyddfa ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn le perffaith i aros i’r rhai sydd yn mwynhau:
- Cerdded a dringo
- Gweithgareddau antur dŵr megis canŵio a syrffio
- Beicio mynydd
- Rheilffyrdd stem a chestyll … a llawer mwy
Mae bws Sherpa’r Wyddfa yn mynd heibio giât ffordd y maes gwersylla, gan redeg i fyny i Ben-y-Pass wrth droed Llwybr y Mwynwyr a Llwybr PYG sy’n arwain i gopa’r Wyddfa.
Atyniadau ogwmpas Gwersyllfa Fferm Garth
Mae’r map isod yn dangos lleoliad rhai o’r atyniadau y gallwch ymweld â nhw yn ystod eich ymweliad a Maes Gwersylla Garth. Defnyddiwch y bwtwm ‘Update Attraction Type’ i hidlo’r mathau o atyniadau, a chliciwch ar yr eicon ar y map i weld y wybodaeth am yr atyniad gan gynnwys dolen i’w gwefan, a chyfarwyddiadau ar sut i gyraedd yr atyniad o’r maes gwersylla.
= Atyniad.
= Fferm Garth.
Cliciwch ar yr eicon am wybodaeth.
Digon i’w wneud yn ystod eich ymweliad
Mae Yr Wyddfa, Tryfan, Moel Siabod a holl fynyddoedd eraill Eryri yn hawdd eu cyrraedd o’r gwersyll, gyda bws gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn mynd heibio giât y gwersyll yn rheolaidd drwy gydol y dydd, gan osgoi problemau parcio. Gweler yr amserlen ar wefan y cyngor lleol – mae gwasanaeth S1 yn mynd heibio’r maes gwersylla.
Mae’r maes gwersylla o fewn pellter rhesymol i holl atyniadau ZipWorld yn ogystal â Pharc Antur Eryri (sy’n cynnwys Surf Snowdonia) yn Nolgarrog ac mae Canolfan Mynydda Plas Y Brenin dafliad carreg o’r gwersyll ochor draw ir llyn.

Cwestiynau Cyffredin
Mae’r siopau bwyd agosaf ym Metws-y-Coed 7 milltir i’r dwyrain sydd â SPAR/becws, Londis a Deli.
Mae yna hefyd nifer o siopau offer awyr agored ym Metws-y-Coed, a siop Joe Brown dafliad carreg i lawr y ffordd o’r gwersyll.
Gallwch fynd ar drên i Fetws-y-Coed, ac yna defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa sy’n mynd heibio mynedfa’r gwersyll.













