Gwersylla rhwng Yr Wyddfa a Chapel Curig
Mae Gwersyll Fferm Garth wedi ei leoli rhwng Capel Curig a’r Wyddfa ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
- Lleoliad ar lan llyn gyda gologfeydd o’r Wyddfa
- Pebyll a faniau gwersylla
- Lleoliad heddychlon
Dyma wersyll tawel sydd yn berffaith ar gyfer egwyl yn ol i natur lle ni chaniateir systemau stereo a cherddoriaeth.
Ni chaniateir i grwpiau heblaw grwpiau ‘Duke of Edinburgh Award’ am gost o £11 y person y noson – anfonwch e-bost at stay@garthfarmcampsite.co.uk i drefnu.
Mae’r gwersyll yn hwb gwych i archwilio Eryri ac i fwynhau un or aml weithgareddau mae’r ardal yn ei gynnig. Ewch i dudalen Ardal Lleol i weld sut i gael y mwyaf o’ch ymweliad.

Pebyll
Faniau gwersylla
Dim cwn
Dim cerddoriaeth
Cyfleusterau
- Safleoedd ar gyfer pebyll a faniau gwersylla
- Bloc toiledau
- Basnau ymolchi gyda dŵr poeth ac oer
- Cawodydd poeth
- Sinc golchi llestri
- Agored trwy’r flwyddyn
Prisiau
Talu fesul person ac nid fesul safle.
£10 yr oedolyn am y noson
£5 y plentyn am y noson (16 oed ac iau)
cawodydd – £1 am 5 munud
Nodiadau
- Cewch gyrraedd ar ol 12yh (hanner dydd).
- Rhaid i chi ymadel cyn 12yh (hanner dydd).
- Rydych angen archebu lle cyn eich ymweliad. Gellir archebu lle hyd at 4 mis ynghynt.
- Mae lleiafswm o 3 noson dros wyliau y banc.
- Rhywfaint o dir anwastad – chi sydd i benderfynu ar leoliad addas i’ch pabell.
- DIM cysylltiad trydan ar gael.
Telerau ac Amodau
Rhaid i’r rhai sy’n aros ar y gwersyll gydymffurfio â’r canlynol:
- Yr unig grwpiau a ganiateir ar y maes gwersylla yw grwpiau DofE am bris o £11 y person y noson (anfonwch e-bost i drefnu ).
- Dim cwn nac unrhyw anifeiliaid anwes gan bod y gwersyll ar Fferm waith draddodiadol.
- Mae’r lleoliad yn un tawel lle ni chanieteir systemau stereo a cherddoriaeth.
- Gallwch wneud tân cyn belled â’i fod oddi ar y ddaear e.e. mewn crat tan neu stand bbq.
Cwestiynau Cyffredin
Mae’r siopau bwyd agosaf ym Metws-y-Coed 7 milltir i’r dwyrain sydd â SPAR/becws, Londis a Deli.
Mae yna hefyd nifer o siopau offer awyr agored ym Metws-y-Coed, a siop Joe Brown dafliad carreg i lawr y ffordd o’r gwersyll.
Gallwch fynd ar drên i Fetws-y-Coed, ac yna defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa sy’n mynd heibio mynedfa’r gwersyll.
Rydym yn eich annog i edrych ar ragolygon y tywydd cyn dod ar eich taith oherwydd gall y tywydd ger y mynyddoedd fod yn arw iawn a newid yn gyflym.
Gallwch chi wneud tân cyn belled â’i fod yn llodgi oddi ar y ddaear, mae coed tân ar werth yn y ffermdy am £5.
Gallwch nodi eich cyrhaeddiad yn y ffermdy, byddwn yn ateb y drws rhwng 8yb a 9yh.

















